Morgannwg yn ennill o 10 wiced

Michael Hogan Image copyright Arall
Image caption Michael Hogan: Cipiodd saith wiced

Mae Morgannwg wedi curo Sir Gaerwrangon o 10 wiced ym Mhencampwriaeth y Siroedd yng Nghaerdydd.

Hon oedd gêm gyntaf y tymor a'r fuddugoliaeth yn gyfforddus.

Roedd cyfraniad y bowliwr cyflym o Awstralia Michael Hogan yn drawiadol.

Cipiodd bedair wiced ym matiad cynta' Sir Gaerwrangon a thair yn yr ail.

Daeth batiad cynta' Morgannwg i ben ar 295, mantais o 172 ar yr ymwelwyr.

Cafodd Sir Gaerwrangon ddechrau gwael i'w hail fatiad wrth i Graham Wagg fowlio Matthew Pardoe am ddim gyda thrydedd bêl y batiad.

Daliodd Will Bragg capten yr ymwelwyr, Daryl Mitchell, oddi ar fowlio Jim Allenby am 10 wedi i'r agorwr a Moeen Ali ychwanegu 49 am yr ail wiced.

Bowliodd Bragg Ali am 55 gyda'r sgôr ar 97 a thoc wedi hynny daliodd Allenby Alexei Kervezee oddi ar fowlio Bragg am ddim.

Morgannwg v Sir Gaerwrangon - Pencampwriaeth y Siroedd, Ail Adran

Caerwrangon (batiad cyntaf) 123 (63.1 pelawd)

Morgannwg (batiad cyntaf) 295 (108.4 pelawd)

Caerwrangon (ail fatiad) 207 (84.1 pelawd)

Morgannwg (ail fatiad) 36-0 (9.1 pelawd)

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.