Damwain farwol: Heddlu'n apelio

Mae'r heddlu'n apelio am dystion wedi i gar Toyota du daro cerddwr 34 oed nos Wener.

Bu farw'r dyn yn yr ysbyty.

Roedd y ddamwain am 7.15pm yn Stryd Margaret yn Abercynon.

Ni stopiodd y gyrrwr a daethpwyd o hyd i'r car wedi ei losgi yng Nghilfynydd.

Cafodd dyn 22 oed o Abercynon ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111, gan ddyfynnu cyfeirnod 115292.