Gobeithion Scarlets yn parhau

Jonathan Davies Image copyright Arall
Image caption Seren y gêm: Jonathan Davies

Pro12: Scarlets 24-6 Gleision Caerdydd

Scarlets (10) 24

Ceisiau: J Davies (2), L Williams, Trosiadau: O Williams (2), Priestland, Ciciau cosb: O Williams

Gleision Caerdydd (6) 6

Ciciau cosb: Halfpenny (2)

Roedd buddugoliaeth tîm y gorllewin yn gyfforddus yn erbyn un y dwyrain.

Sgoriodd Jon Davies gais cyn ac ar ôl yr egwyl ac ychwanegodd Liam Williams un disglair.

Ciciodd Owen Williams saith o bwyntiau a throsodd Rhys Priestland wrth iddo chwarae am y tro cynta' eleni.

Dwy gic gosb Leigh Halfpenny yn yr hanner cynta' oedd unig ateb y Gleision ac nid oedd awch o gwbl ar eu hymosod.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod y Scarlets yn bedwerydd yn y tabl ar 66 o bwyntiau, bedwar pwynt uwchben y Gweilch.

Un gêm sy'n weddill.

Y Scarlets sy' â'r fantais am eu bod yn wynebu Treviso gartre' wrth i'r Gweilch deithio i Leinster.

Scarlets: Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Andy Fenby; Owen Williams, Aled Davies;

Phil John, Ken Owens, Samson Lee, George Earle, Johan Synman, Aaron Shingler, Josh Turnbull, Rob McCusker (capten).

Eilyddion: Matthew Rees, Rhodri Jones, Jacobie Adriannse, Jake Ball, Sione Timani, Gareth Davies, Rhys Priestland, Gareth Maule.

Gleision Caerdydd : Leigh Halfpenny; Owen Williams, Gavin Evans (capten), Jamie Roberts, Harry Robinson; Rhys Patchell, Lewis Jones;

Taufa'ao Filise, Kristian Dacey, Scott Andrews, Filo Paulo, Lou Reed, Josh Navidi, Sam Warburton, Michael Paterson.

Eilyddion: Marc Breeze, Thomas Davies, Benoit Bourrust, Bradley Davies, Luke Hamilton, Alex Walker, Ceri Sweeney, Dafydd Hewitt.

Dyfarnwr: Nigel Owens

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.