Tân gwyllt: Arestio menyw

Uned difa bomiau Image copyright Arall
Image caption Cafodd uned difa bomiau eu galw o Gaer

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ddigwyddiadau'n ymwneud â thân gwyllt wedi arestio menyw 40 oed.

Dywedodd yr heddlu ei bod hi'n lleol ac yn cael ei holi yng Ngorsaf Heddlu Llanelwy.

Bu raid i bobl orfod gadael eu tai eto wrth i'r heddlu ac uned difa bomiau archwilio tŷ'n gysylltiedig â dyn 46 oed gafodd ei arestio.

Ddydd Sadwrn roedd 40 ym Mhwllgrawys yn Ninbych wedi cael dychwelyd i'w cartrefi wedi iddyn nhw dreulio rhan o'r noson yn Neuadd y Dre'.

Ond bu raid iddyn nhw adael eu tai unwaith eto.

Uned difa bomiau

Roedd yr heddlu'n archwilio tŷ'n gysylltiedig â dyn gafodd ei arestio ddydd Gwener yn sgil cyfres o digwyddiadau'n ymwneud â thân gwyllt ers mis Mawrth.

Cafodd uned difa bomiau o Gaer eu galw.

Mae nifer o geir a ffenestri wedi cael eu difrodi yn y dre' dros yr wythnosau diwethaf.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andrew Williams: "Fy mlaenoriaeth i yw sicrhau diogelwch y cyhoedd.

"Yn yr achos hwn rydym wedi galw adnoddau arbenigol er mwyn sicrhau diogelwch pawb yn yr ardal.

"Oherwydd yr angen i fod yn rhagofalus rydym wedi gofyn i bobl adael eu tai."

Diolchodd i bobl leol am eu cydweithrediad ac apelio eto am unrhyw wybodaeth am y gyfres o ddigwyddiadau'n ymwneud â thân gwyllt.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.