Ford yn buddsoddi £24m yn eu ffatri ym Mhen-y-bont

Ceir
Image caption Mae disgwyl i'r gwaith o gynhyrchu'r peiriannau newydd ddechrau'r flwyddyn nesa'

Mae cwmni Ford yn buddsoddi £24 miliwn yn eu safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan ddiogelu tua 2,300 o swyddi.

Dywed penaethiaid y bydd y gwaith o gynhyrchu peiriannau 1.5 litr 'EcoBoost' yn dechrau'r flwyddyn nesa'.

Mae arbenigwyr o fewn y diwydiant ac arweinwyr cymunedol wedi croesawu'r newyddion, gan ddweud fod gwarchod cymaint o swyddi yn sefydlogi'r ardal ehangach yn economaidd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £12 miliwn tuag at y prosiect.

Dywedodd cyn arweinydd cyngor Pen-y-bont, Jeff Jones, ei fod yn "newyddion gwych".

"Mae Ford yn un o'r enwau mwya' yn y wlad ryngwladol...ac â'r modd i gyfrannu'n sylweddol at yr economi," meddai.

Yn ôl Dr Peter Wells, sy'n arbenigwr ar y diwydiant cynhyrchu ceir, mae y safle ym Mhen-y-bont yn chwarae rhan bwysig o fewn y diwydiant.

"Mae'n newydd da i Gymru ac mae'n dweud cyfrolau am y ffordd mae'r gweithlu wedi parhau i newid ac addasu," meddai.

'Mwy gwyrdd'

Ychwanegodd Dr Wells, cyfarwyddwr Ymchwil Cerbydau Modur yn Ysgol Fusnes Caerdydd, fod cwmnïau wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu peiriannau sy'n defnyddio llai o danwydd ac yn fwy gwyrdd, a hynny cyn i reolau newydd ddod i rym yn y maes.

Y ffatri ym Mhen-y-bont fydd y prif safle ar gyfer cynhyrchu'r peiriant newydd 1.5 litr.

Mae disgwyl i'r gwaith cynhyrchu ddechrau'r flwyddyn nesa', cyn "cynyddu dros y ddwy flynedd wedyn i sicrhau bod Pen-y-bont yn cynnal lefel uchel o gynhyrchiant yn ystod y cyfnod hwn", yn ôl llefarydd ar ran y cwmni.

Bydd yn cael ei gynhyrchu ochr yn ochr â'r peiriant 1.6 litr EcoBoost, a gyflwynwyd yn 2011.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Edwina Hart: "Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda Ford i sicrhau'r buddsoddiad yma ac rydym yn hapus i gadarnhau pecyn cymorth gwerth £12 miliwn tuag at y prosiect cyffrous hwn.

"Bydd yn helpu i amddiffyn a chreu swyddi cynhyrchu a pheirianyddol o ansawdd uchel yng Nghymru."

Ar hyn o bryd mae'r ffatri ym Mhen-y-bont yn cynhyrchu 2,668 o beiriannau pedwar-silindr yn ddyddiol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.