Cwyn o hiliaeth mewn gêm bêl-droed

Mae tîm pêl-droed Bangor wedi gwneud cwyn swyddogol i Gymdeithas Pêl-droed Cymru yn dilyn digwyddiad honedig yn eu gêm yn erbyn Airbus ddydd Sadwrn.

Honnir bod un o bêl-droedwyr Airbus wedi gwneud sylwadau wrth ymosodwr Bangor, Gary O'Toole.

Roedd y ddau dîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd mewn gêm yn Uwch Gynghrair Cymru ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

Mae Ysgrifennydd Uwch Gynghrair Cymru, Gwyn Derfel, wedi cadarnhau ei bod wedi derbyn cwyn swyddogol gan y clwb.

Adran gwynion Cymdeithas Bêl-droed Cymru fydd yn delio gyda'r sefyllfa.

Dywedodd Gwyn Derfel: "Allwn ni ddim gwneud unrhyw sylw arall tan fod yna ymchwiliad manwl wedi bod i'r mater.

"Ond rydyn ni yn pwysleisio nad yw hiliaeth yn dderbyniol yn y gêm.

"Hoffem hefyd ddweud bod y ddau dîm wedi cydweithredu'n ardderchog hyd yn hyn."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.