Enwi pâr priod o Raeadr fu farw mewn damwain

Mae'r Heddlu wedi cadarnhau bod pâr priod o Bowys wedi cael eu lladd mewn damwain ger Amwythig.

Fe darodd beic modur Kevin Byrne, 48 oed a'i wraig Carol, 49 oed, o Raeadr yn erbyn Vauxhall Astra du tua 12.20pm ar ffordd yr A458 yn Rowton, rhwng Y Trallwng a'r Amwythig brynhawn dydd Sul.

Bu farw'r ddau yn y fan a'r lle.

Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Sir Amwythig ar 0300 3333000.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.