Snwcer: Dechrau gwael i Stevens a Dale

Matthew Stevens Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Stevens yn herio Marco Fu

Mae Matthew Stevens a Dominic Dale wedi cael dechrau siomedig yn eu gemau ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.

Mae'r Cymro o Gaerfyrddin ar ei hôl hi o 6-3 yn dilyn sesiwn gyntaf ei gêm yn erbyn Marco Fu o Hong Kong.

Mae Stevens, 35, yn gobeithio ymuno â'r Cymro o Gastell-nedd, Michael White, wnaeth guro Mark Williams ddydd Sul, yn yr ail rownd.

Bydd gêm Stevens, sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth yn 2000 a 2005, yn gorffen brynhawn dydd Mercher.

Mae Cymro arall, Dominic Dale yn herio un o'r ffefrynau ar gyfer y bencampwriaeth, Judd Trump o Loegr, yn y rownd gyntaf.

A'r Sais sydd ar y blaen o 6-3 yn dilyn y sesiwn gyntaf gan gynnwys toriad o 142 yn y chweched ffrâm.

Bydd gemau Stevens a Dale yn gorffen ddydd Mercher.

Canlyniadau'r Cymry:

Rownd 1

Dydd Mawrth Ebrill 23

Matthew Stevens 3-6 Marco Fu (Hong Kong)

Judd Trump (Lloegr) 6-3 Dominic Dale

Dydd Sul, Ebrill 21

Mark Williams 6-10 Michael White

Straeon perthnasol