Tîm pêl foli o Gymru yn llwyddo

Y tîm pêl foli yn dathlu Image copyright Other
Image caption Bydd y merched yn dechrau chwarae yn y Super 8s mis Medi

Nid dim ond chwaraewyr Caerdydd sydd ag achos i ddathlu'r mis yma. Mae chwaraewyr tîm merched pêl foli De Cymru hefyd yn gwenu ar ôl cael ei dyrchafu i'r Super 8s.

Dyma'r uwch gynghrair ar gyfer merched sydd yn chwarae pêl foli yng Nghymru a Lloegr.

Ers cael ei sefydlu yn 2009 mae'r tîm sydd yn cynnwys merched o 17 i 42 oed wedi mynd o nerth i nerth.

Yn ei blwyddyn gyntaf roedd y garfan yn chwarae yng nghynghrair lleol y de orllewin a bob blwyddyn wedi hynny mae nhw wedi codi nes cyrraedd yr adran gyntaf yn 2012.

Fe gafon nhw eu coroni yn bencampwyr yr adran honno ddechrau Ebrill a chael eu dyrchafu i'r Super 8s, y tîm cyntaf o Gymru erioed i wneud hynny.

Strwythur da ac ymroddiad y merched sydd wedi arwain at y llwyddiant meddai Jose Castro sydd wedi bod yn ei hyfforddi ers 2010:

"Yn y sesiynau ymarfer mae nhw wastad yno, wastad yn barod i hyfforddi yn galed.

"Dw i yn eu gwthio nhw yn galed ac mae nhw yn ymateb.

"Hefyd tu allan i'w rôl fel chwaraewyr maen nhw'n helpu gymaint ag y gallan nhw trwy drio ffeindio cefnogwyr ariannol i'r clwb neu gynnal digwyddiadau cymdeithasol fel gwylio ffilmiau sydd yn eu helpu i fondio.

"Rydyn ni fel teulu."

Y chwaraewyr

13 o ferched sydd yn chwarae yn y tîm gyda chwech yn ymddangos ar y cwrt ym mhob gêm.

Mae dwy yn dod o Gymru sef Atlanta Taylor ac Emily Pearson ac mae Atlanta Taylor wedi cynrychioli Cymru yn y tîm iau yn y blynyddoedd diwethaf.

Image copyright Other
Image caption Mae Atlanta Taylor wedi chwarae dros Gymru

Mae'r ferch 17 oed hefyd wedi cael ei chynnwys yng ngharfan datblygu Prydain Fawr.

Ymhlith y merched eraill mae rhai yn dod o Loegr.

Ond mae yna hefyd chwaraewyr o dramor megis Japan, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Portiwgal a Gweriniaeth Siec.

Codi proffil

Dyw'r gêm ddim wedi bod yn boblogaidd ym Mhrydain yn y gorffennol a dyna pam mae'r hyfforddwr yn teimlo bod nifer o'r merched yn hanu o du allan i Gymru.

Ond mae o yn awyddus i ddatblygu pêl foli yma ac yn dweud bod y llwyddiant diweddar wedi ysbrydoli nifer:

"Rydyn ni nawr eisiau datblygu carfan i'r rhai ieuengach am fod yna ddiddordeb gan rhai ifanc i ymuno yn y tîm."

Y dyfodol

Doedd y garfan ddim wedi disgwyl y bydden nhw yn cael ei dyrchafu i'r Super 8s meddai Jose Castro.

Bydd y tymor newydd yn dechrau ym mis Medi a nawr ei bod nhw wedi cyrraedd yr uchelfannau mae'n awyddus bod y merched yn parhau i chwarae yn dda:

"Mae'n golygu gweithio yn galetach.

"Dydyn ni ddim eisiau ein bod ni wedi mynd i fyny ond yna ein bod ni ar waelod y gynghrair.

"Ond mae'r pwysau hynny yn gwneud i ni weithio yn fwy caled."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.