Teyrnged i glwb Caerdydd ar ffurf pitsa

Mae un o westai'r brifddinas yn dathlu dyrchafiad tîm pêl-droed Caerdydd i'r uwch gynghrair trwy ofyn i ddylunydd greu portreadau o enwau mawr y clwb- a hynny ar ffurf pitsa.

Fe ofynnodd Radisson Blu Hotel yng Nghaerdydd i Nathan Wyburn wneud y gwaith.

Mae'r artist 23 oed o'r Fenni, sydd wedi ymddangos ar y rhaglen deledu Britain's Got Talent yn enwog am ddylunio wyneb Simon Cowell allan o Marmite ar dost.

Perchennog y clwb Vincent Tan, y rheolwr Malky Mackay a'r capten Mark Hudson sydd i'w gweld ar y tri pitsa anferthol.

Fe gafon nhw eu creu gan ddefnyddio llysiau a phiwrî tomato.

Am ei bod yn bartner corfforedig i'r clwb pêl-droed roedd y gwesty 4 seren yn awyddus i nodi ei llwyddiant diweddar mewn ffordd arbennig.

Dywedodd y Rheolwr Cyffredinol, Jens Hallman:

"Mae Nathan wedi gwneud gwaith arbennig yn creu'r portreadau pitsas yma.

Dw i'n gobeithio y bydd y tîm yn teimlo bod hyn yn deyrnged addas ar gyfer yr holl waith caled a'r ymroddiad maen nhw wedi dangos yn ystod y tymor diwethaf."

Bydd y portreadau i'w gweld ar y llawr gwaelod yn y gwesty yn ystod yr wythnos.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.