Carbon Monocsid: Dau yn yr ysbyty

Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin
Image caption Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin

Mae plentyn ac oedolyn yn cael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl iddynt anadlu nwy carbon monocsid mewn tŷ yn Aberystwyth.

Cafodd y ddau driniaeth yn y fan a'r lle gan ddiffoddwyr tân cyn iddyn nhw gael archwiliad pellach yn yr ysbyty.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin eu galw i'r adeilad yn Stryd y Castell tua 09:30am ddydd Mawrth.

Does dim mwy o fanylion ar hyn o bryd.