Bar: 20 o bobl yn colli eu swyddi yn Llandudno

Diodydd
Image caption Bydd y bar ym Mangor yn aros yn agored wrth i weinyddwyr geisio dod o hyd i brynwr

Mae hyd at 20 o bobl wedi colli eu swyddi ym mar Fat Cat yn Llandudno.

Mae'r cwmni gafodd ei sefydlu ym Mangor ddechrau'r 1990au wedi ei roi yn nwylo gweinyddwyr, Cooper Parry.

Mae'r cwmni eisoes wedi cau dau safle yng Nghaerdydd a Wrecsam.

Ond fe fydd y bar ym Mangor yn aros yn agored, wrth i weinyddwyr geisio dod o hyd i brynwr.

Cafodd bar Fat Cat ei sefydlu gan reolwr gyfarwyddwr y cwmni, Matthew Saunders, a'r cyfarwyddwr cyllid, Simon Patterson, 21 mlynedd yn ôl.

Cafodd Bangor ei ddewis fel lleoliad cyntaf y cwmni am fod mam Mr Saunders yn byw ym Mhenmaenmawr.

Roedd Mr Saunders a Mr Patterson yn dal wrth y llyw tan i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ddydd Mawrth.

Mae safleoedd y cwmni yng Nghaer a Hanley yn Lloegr hefyd wedi cael eu cau gan y gweinyddwyr ond bydd safleoedd yn Bow yn Llundain, Derby, Caerlŷr a Frodsham yn Swydd Caer yn ogystal â Bangor yn dal ar agor.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.