Dominic Dale allan o Bencampwriaeth Snwcer y Byd

Dominic Dale Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Collodd Dale o 10-5 yn y rownd gyntaf

Mae Dominic Dale allan o Bencampwriaeth Snwcer y Byd ar ôl colli 10-5 i Judd Trump o Loegr fore Mercher.

Bydd yn wynebu Marco Fu o Hong Kong drechodd Matthew Stevens 10-7.

Roedd Stevens wedi trechu Fu y llynedd ond y tro hwn mae'r dyn o'r Dwyrain Pell yn cyrraedd yr ail rownd am y tro cynta' ers 2009.

Roedd Dale ar ei hôl hi o 6-3 yn dilyn y sesiwn gyntaf ddydd Mawrth a chododd gobeithion y Cymro wrth iddo ennill ffrâm gyntaf yr ail sesiwn.

Ond chwaraeodd Trump yn wych yn y tair ffrâm nesaf gyda rhediadau o 104, 73, a 64 i symud o fewn un ffrâm i gyrraedd yr ail rownd.

Tarodd Dale yn ôl yn y ffrâm nesaf gyda rhediad o 96 cyn i Trump selio'r fuddugoliaeth 77-35 yn y ffrâm nesaf .

Canlyniadau'r Cymry:

Rownd 1

Dydd Mercher Ebrill 24

Judd Trump (Lloegr) 10-5 Dominic Dale

Marco Fu (Hong Kong) 10-7 Matthew Stevens

Dydd Mawrth Ebrill 23

Matthew Stevens 3-6 Marco Fu (Hong Kong)

Dydd Sul, Ebrill 21

Mark Williams 6-10 Michael White

Straeon perthnasol