Cau'r brif ffordd i mewn i Wrecsam

Ardal Llwyn Isaf yng nghanol Wrecsam
Image caption Mae'r heddlu wedi cyfyngu ar fynediad i ardal Llwyn Isaf ger llyfrgell Wrecsam

Mae'r heddlu wedi cau'r brif ffordd i mewn i dref Wrecsam wedi i dri dyn ifanc ddringo ar ben to adeilad.

Dywedodd yr heddlu nad yw'n glir pam bod y tri ar ben to adeilad cwmni cyfreithwyr, ond maen nhw wedi cadarnhau bod un o'r tri wedi gwneud rhywbeth tebyg bythefnos yn ôl.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r safle ychydig wedi 11:30am fore Mercher, ac mae trafodwyr arbenigol yr heddlu wedi bod yno.

Mae un o'r tri bellach wedi dod i lawr.

Cafodd Ffordd Caer ei chau, ac mae'r heddlu hefyd wedi cyfyngu ar fynediad i adeiladau'r cyngor gerllaw a pharc Llwyn Isaf ger llyfrgell y dref.