Gormod o fentrau iaith yng Nghymru?

Mentrau iaith Cymru Image copyright Mentrau Iaith Cymru

Mae cyn-Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones, wedi dweud bod gormod o fentrau iaith yng Nghymru.

Dywedodd fod angen i rai o fentrau'r de-ddwyrain uno.

Ond wrth i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad o ddyfodol y mentrau, mae mudiad Mentrau Iaith Cymru wedi mynnu mai dim ond drwy bara'n lleol y gallan nhw lwyddo.

'Trefn ranbarthol'

Ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru fore Iau dywedodd Mr Jones: "Mae'r mentrau iaith yn un o'r datblygiadau pwysicaf dros y chwarter canrif diwethaf o ran hyrwyddo'r iaith.

Image caption Roedd Meirion Prys Jones yn cydnabod pwysigrwydd y mentrau iaith o ran hyrwyddo'r iaith

"Yr hyn dwi'n chwilio amdano fan hyn yw sut mae'r mentrau wedi datblygu dros y cyfnod a does dim amheuaeth eu bod nhw'n wahanol yn y gogledd i'r hyn maen nhw yn y de-orllewin ac yn nwyrain Cymru.

"Dwi'n credu bod angen ystyried a oes angen trefn ranbarthol bellach yn hytrach na chael nifer o fentrau bach, hynny yw trefnwyr rhanbarthol a phwyllgorau lleol sy'n gweithio yn y cymunedau ar yn cael eu cydlynu ar draws yr ardaloedd hynny.

"Os y'n ni'n gweld o ffigyrau'r Cyfrifiad fod sefyllfa'r Gymraeg yn bryderus, mae'n rhaid i ni geisio bod yn fwy creadigol."

'Deall gofynion'

Ond dywedodd Sian Lewis o Fenter Iaith Caerdydd ei bod yn anghytuno.

"Mae'n bwysig cael 'identity' lleol i bob menter iaith.

"Maen nhw wedi datblygu oherwydd awydd pobl leol i weld cynnydd yn y defnydd o'r iaith Gymraeg yn digwydd yn eu hardaloedd nhw ac mae'n bwysig bod y bobl ar lawr gwlad yn y cymunedau yn gweithredu ac yn deall gofynion y cymunedau o ran gwasanaeth.

"Rwy'n falch bod adolygiad yn digwydd (gan Lywodraeth Cymru) ac yn awyddus i weld y canlyniadau ac argymhellion yr arolwg er mwyn i ni fedru gallu gweithredu'n fwy effeithiol."

Straeon perthnasol