Damwain ddifrifol: ffordd ar gau

Mae Gwasanaeth Tân y Gorllewin a'r Canolbarth wedi eu galw i ddelio â damwain ddifrifol ar ffordd yr A465 yng Nglyn-nedd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am 3.40pm ddydd Iau, ger Resolfen, i'r gogledd-ddwyrain o Gastell Nedd.

Mae'r ffordd wedi ei gau i'r ddau gyfeiriad.

Mae 'na adroddiadau bod lori wedi gyrru drwy fariau ynghanol y ffordd ac i fyny'r clawdd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.