Snwcer: White yn cyrraedd chwarteri

Michael White, 21, yn y Crucible Image copyright Getty Images
Image caption Michael White, 21, yn y Crucible

Mae Michael White, 21 oed o Gastell-nedd, wedi cyrraedd chwarteri Pencampwriaeth Snwcer y Byd.

Roedd White ben ag ysgwydd yn well na'i wrthwynebydd o Wlad Thai, Dechawat Poomjaeng wrth ennill o 13-3.

Fe fydd e'n chwarae eto ddydd Mawrth nesaf.

Yn y rownd gyntaf roedd White wedi curo un o'i gyd Gymry, Mark Williams o 10-6 yn y Crucible.

Dyma'r tro cynta' i White chwarae yn y gystadleuaeth hon.

Canlyniadau'r Cymry:

Rownd 2

Dydd Gwener Ebrill 26

Michael White 13-3 Dechawat Poomjaeng

Rownd 1

Dydd Mercher Ebrill 24

Judd Trump (Lloegr) 10-5 Dominic Dale

Marco Fu (Hong Kong) 10-7 Matthew Stevens

Dydd Mawrth Ebrill 23

Matthew Stevens 3-6 Marco Fu (Hong Kong)

Dydd Sul, Ebrill 21

Mark Williams 6-10 Michael White

Straeon perthnasol