Morwr wedi lladd ei hun ar long danfor

HMS Vigilant
Image caption Roedd HMS Vigilant ar ymarferion ym Môr Iwerydd

Clywodd cwest yng Nghaernarfon bod llongwr 20 wedi lladd ei hun ar fwrdd llong danfor ym Mor Iwerydd.

Roedd Peter Roberts, o Ffordd Fer, Caergybi, Ynys Môn, ar fwrdd HMS Vigilant ym mis Medi'r llynedd.

Roedd y llong danfor, sy'n hwylio allan o borthladd Faslane yn yr Alban, ar ymarferion yn yr Iwerydd.

Cafwyd hyd i gorff Mr Roberts yn ystod archwiliad arferol o'r llong.

Cludwyd y corff i ganolfan Kings Bay yn nhalaith Georgia yn yr Unol Daleithiau lle bu archwiliad post mortem trylwyr gan feddyg lleol.

Pan gafodd y corff ei gludo yn ôl i Gymru, fe wnaed archwiliad post mortem arall gan batholegydd yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ac roedd y ddau'n cytuno mai achos y farwolaeth oedd tagu drwy hongian.

Roedd yr HMS Vigilant ar ei ffordd yn ôl i'r Alban yn dilyn ymarferion i danio taflegryn prawf Trident, ond er i'r llong gael ei huwchraddio ar gost o £333 miliwn dros y tair blynedd diwethaf, fe dorrodd y llyw ar y ffordd a bu'n rhaid iddi ddychwelyd o America.

Wrth gofnodi bod Mr Roberts wedi lladd ei hun, dywedodd y crwner Dewi Pritchard-Jones:

"Does dim galw ar y crwner mewn achosion fel hyn i ofyn 'pam?'"