Croesawu'r Eisteddfod

Logo Eisteddfod yr Urdd 2014 Image copyright Other
Image caption Bu Eisteddfod yr Urdd ym Meirionnydd y tro diwethaf yn 1994

Mae pobl Meirionnydd wedi croesawu Eisteddfod yr Urdd i'w hardal trwy gynnal gŵyl gyhoeddi ddydd Sadwrn.

Bydd yr eisteddfod yn dod i Feirionnydd yn 2014.

Dydd Sadwrn fe wnaeth cannoedd orymdeithio ym Mlaenau Ffestiniog o Ysgol y Moelwyn gan orffen ym maes parcio Diffwys.

Hefyd, roedd 'na jambori sef sioe gerddorol gan yr Urdd ac mae enillwyr Cân i Gymru eleni, Jessop a'r Sgweiri, a'r band lleol Sŵnami yn perfformio.

Stwnsh

Rhai o gyflwynwyr Stwnsh sydd yn arwain yr ŵyl.

Nhw hefyd fydd yn penderfynu pa ysgol sydd wedi creu'r faner orau sydd yn adlewyrchu'r ardal, gyda'r enillwyr yn cael gwobr o £250.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae amryw o ddigwyddiadau wedi eu cynnal gan gynnwys cystadleuaeth talent Urdd ffactor a gig gyda bandiau Cymraeg.

'Gwledd o adloniant'

Dywedodd Hedd Pugh, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith: "Pleser o'r mwyaf yw cael cynnal yr ŵyl gyhoeddi ym Mlaenau Ffestiniog.

"Bydd yn achlysur arbennig i'r sir gyfan ac yn gyfle unigryw i ddod ynghyd i ddathlu'r ffaith fod yr Eisteddfod yn dod i'r ardal yn 2014.

"Rwy'n annog pawb o bob oed i ddod draw ar y diwrnod i orymdeithio ac i fwynhau'r wledd o adloniant fydd yn ein disgwyl."

Mae bysiau gwennol wedi cael eu darparu i fynd â phobl o faes parcio Llechwedd i Ysgol y Moelwyn yn ystod y diwrnod.

Llenyddiaeth

Nid dyma oedd yr unig ddigwyddiad ym Mlaenau Ffestiniog dros y penwythnos.

I gyd fynd â'r orymdaith roedd yna weithgareddau llenyddol hefyd yn digwydd yn Siop Antur Stiniog gan gynnwys sesiwn stori a chân a thaith gerdded lenyddol.

Llenyddiaeth Cymru sydd yn trefnu a rhai o'r unigolion sydd wedi cymryd rhan oedd Bethan Gwanas, Sian Northey, Ed Holden, Dewi Prysor a Mair Tomos Ifans.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.