Dod o hyd i gorff yn yr Alpau

Simon Daw Image copyright Arall
Image caption Mi ddiflannodd yr isgorporal ym mis Chwefror

Mae cerddwyr wedi dod o hyd i gorff yn Ffrainc, corff milwr o Gymru o bosib'.

Mi ddiflannodd yr Isgorporal Simon Daw sydd yn 26 oed ym mis Chwefror.

Doedd y dyn gafodd ei eni yng Nghaerdydd ddim wedi dychwelyd i'w fflat yn Les Deux Alpes ar ôl bod allan yn yfed.

Roedd yn y pentref sgïo poblogaidd gyda ffrindiau.

Yn ôl adroddiadau, nid oedd wedi bod yn yfed yn drwm y noson honno.

£8,000

Mi aeth tad Simon Daw a'i frawd i'r ardal ym mis Chwefror i roi gwybod i bobl ei fod wedi diflannu ac roedden nhw yn cynnig gwobr ariannol o £8,000 i unrhyw un gyda gwybodaeth.

Er y chwilio amdano, ni chafwyd hyd i'r milwr y mae ei farics yng Nghaer.

Daethpwyd o hyd i gorff nos Iau yn agos i'r Les Deux Alpes.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Rydyn ni yn ymwybodol o'r adroddiadau o Ffrainc.

"Dyw'r corff ddim wedi ei adnabod yn swyddogol eto.

"Mae ein meddyliau yn parhau i fod gyda'r teulu."

Straeon perthnasol