April Jones: Dechrau dewis rheithgor

April Jones Image copyright PA
Image caption Diflannodd April Jones ar Hydref 1 2012

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug mae'r broses o ddewis rheithgor achos llys dyn ar gyhuddiad o lofruddio'r ferch bump oed, April Jones, wedi dechrau.

Mae Mark Bridger, 47 oed, o Fachynlleth, Powys, yn gwadu'r cyhuddiad o gipio a llofruddio'r ferch o Fachynlleth.

Hefyd mae wedi gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder wedi diflaniad April ym mis Hydref y llynedd.

Wedi iddi ddiflannu fe ddechreuodd un o'r ymgyrchoedd chwilio mwyaf yn hanes yr heddlu yn y DU.

Canol Mehefin

Yn y llys roedd y diffynnydd yn gwisgo crys glas a thei ac yn eistedd rhwng dau swyddog carchar.

Cyrhaeddodd rhieni April, Coral a Paul Jones, y llys cyn i'r achos ddechrau.

Gallai bara tan ganol Mehefin.

Galwodd y barnwr, Mr Ustus John Griffith Williams, 50 o aelodau rheithgor posib' a rhoi cyfarwyddyd iddyn nhw.

Esboniodd rhai pam na allen nhw fod ar y rheithgor a chafodd eu rhesymau eu derbyn neu eu gwrthod.

Bydd 30 ohonyn nhw'n dychwelyd ddydd Mawrth cyn bod 12 yn cael eu dewis drwy bleidlais.