Cyhuddo dyn 18 oed o lofruddio Danny Jones

Danny Jones Image copyright West Mercia Police
Image caption Bu farw Danny Jones, 21 oed.

Mae dyn 18 oed wedi bod gerbron ynadon ar gyhuddiad o lofruddiaeth.

Cafodd Richard Reece ei gyhuddo o lofruddio Danny Jones, 21 oed o'r Waun ger Wrecsam, yng Nghroesoswallt yr wythnos ddiwethaf.

Cafwyd hyd i Mr Jones nos Fercher mewn maes parcio yn y dref gydag anaf trywanu i'r stumog.

Bu farw oriau yn ddiweddarach yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig.

Fe gafodd Richard Reece ei arestio ym Mhowys yn gynnar fore Iau.

Bydd yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Amwythig ar Fai 7.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.