Wrecsam a Chasnewydd yn Wembley

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Brett Ormerod (chwith) yn dathlu ei gôl gyda Jay Harris

Kidderminster 1-3 Wrecsam (2-5 dros y ddau gymal)

Casnewydd 1-0 Grimsby (2-0 dros y ddau gymal)

Mae Wrecsam a Chasnewydd wedi cyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle Uwchgynghrair Blue Square Bet yn Wembley ddydd Sul nesaf.

Fe wnaeth Wrecsam deithio i Kidderminster ddydd Sul gyda mantais o 2-1 ar ôl cymal cyntaf rownd gynderfynol y gemau ail gyfle nos Fawrth.

Fis ar ôl ennill Tlws FA Lloegr - y clwb cyntaf o Gymru i gyflawni'r gamp - bydd Wrecsam yn dychwelyd i Wembley ar ôl perfformiad cryf i ennill 5-2 dros y ddau gymal.

Kidderminster ddechreuodd yn gryfaf ddydd Sul, gan gynnwys peniad gan Michael Gash yn taro'r postyn.

Ond daeth y gôl allweddol wedi 29 munud, gyda Brett Ormerod yn dangos ei brofiad trwy godi'r bêl yn bwyllog dros ben y golwr.

Dyna oedd ei ddegfed gôl i Wrecsam, a'i bwysicaf.

Ond roedd tynged y gêm yn y fantol wedi 63 munud pan wnaeth Cheyenne Dunkley rwydo dros Kidderminster gyda pheniad i'r gornel chwith isaf.

Dim ond am bum munud y bu'r ail gymal hon yn gyfartal, gan i Joe Clarke sgorio o gic rydd o fymryn tu allan i'r cwrt cosbi.

Coronwyd y fuddugoliaeth wedi 84 munud pan faglwyd Adrian Cieslewicz gan Josh Gowling o fewn y cwrt cosbi, a llwyddodd Neil Ashton o'r smotyn.

Ar ôl diweddglo siomedig i'w tymor, gorffennodd Wrecsam yn bumed yn Uwchgynghrair Blue Square Bet, a does yr un tîm erioed wedi llwyddo i ennill dyrchafiad ar ôl gorffen yn y safle hwnnw.

Ond mae 'na dro cyntaf i bopeth.

Casnewydd

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Christian Jolley a sgoriodd

Roedd Casnewydd yn gwybod beth oedd yn rhaid iddyn nhw wneud ar faes Rodney Parade ddydd Sul er mwyn cyrraedd Wembley ddechrau mis Mai.

Roedd yr Alltudion ar y blaen wedi'r cymal cyntaf yn Grimsby nos Fercher ar ôl i Ismail Yakubu sgorio ym munudau olaf y gêm.

Gyda phawb yn gwybod y byddai'r gôl gyntaf yn allweddol, fe fwydodd Alex Gilbey y bêl yn ddestlus i Christian Jolley a orffennodd yn glinigol o ymyl y cwrt cosbi wedi 30 munud.

Dyblwyd y fantais felly a dyblwyd yr hyder, a Chasnewydd feistrolodd yr ail hanner.

Gorfoledd yn y gwynt i'r 6,600 o gefnogwyr.

Y tymor diwethaf roedd tîm Justin Edinburgh yn agos at ddisgyn o'r gyngres, felly mae llwyddo i gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle yn gamp ryfeddol.

Straeon perthnasol