Flynn: Dwyn achos yn erbyn y Gymdeithas

Brian Flynn Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Brian Flynn oedd rheolwr dan-21 Cymru tan mis Mai'r llynedd

Bydd cyn-reolwr tîm pêl-droed dan-21 Cymru, Brian Flynn, yn dwyn achos o ddiswyddo annheg yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBC).

Treuliodd rheolwr presennol Doncaster Rovers wyth mlynedd yn y swydd cyn gadael ym mis Mai y llynedd.

Cyn hynny bu'n rheolwr ar Wrecsam ac Abertawe cyn symud at y tîm cenedlaethol yn 2004 fel hyfforddwr y tîm iau, ac ef gafodd y clod am feithrin "cenhedlaeth ddisglair" Cymru oedd yn cynnwys Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen.

Ym mis Ebrill 2012, cyhoeddodd CBC ddatganiad oedd yn cadarnhau na fyddai Flynn yn parhau yn ei swydd ar ddiwedd ei gytundeb oedd yn dod i ben ar Fai 30, 2012.

Ar fwy nag un achlysur, daeth y tîm dan-21 o fewn trwch blewyn i gyrraedd rowndiau terfynol rhai o brif gystadlaethau pêl-droed y byd.

Enillodd Doncaster Rovers ddyrchafiad i'r Bencampwriaeth o Adran 1 dros y penwythnos.