Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam wedi'i chanslo

Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam Image copyright Prifysgol Glyndŵr
Image caption Cafodd Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam ei chynnal yn flynyddol ers 14 mlynedd

Ni fydd Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam yn cael ei chynnal eleni.

Dywedodd y trefnwyr fod y penderfyniad yn anodd ond bod pwysau ariannol ynghyd â llu o ddigwyddiadau eraill o bwys yn y dref yn ystod 2013.

O'r blaen y trefnwyr oedd Prifysgol Glyndŵr gyda chymorth Cyngor Wrecsam, Coleg Iâl, Techniquest Glyndŵr a Gyrfa Gogledd-ddwyrain Cymru.

Eleni roedd i fod i ddigwydd ym mis Gorffennaf.

Ond mae Prifysgol Glyndŵr eisoes wedi cynnal Gŵyl Delweddau Symudol Myfyrwyr Cymru - Ffresh - ym mis Chwefror a Gŵyl Gomedi Cymru dros y penwythnos.

Bydd y Cae Ras, sy'n eiddo i'r brifysgol, yn cynnal dwy gêm yng Nghwpan Rygbi 13 y Byd ym mis Tachwedd.

Er bod y pwyllgor yr ŵyl yn siomedig maen nhw'n hyderus y bydd yn dychwelyd yn 2014.

'Gweithio'n galed'

Dywedodd y cadeirydd, yr Athro Helen James: "Ar ôl ystyried am hir mae'n ddrwg gan Brifysgol Glyndŵr a'i phartneriaid gyhoeddi na fydd Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam yn digwydd eleni.

"Mae'r ŵyl wedi gweithio'n galed dros nifer o flynyddoedd i sicrhau ei lle fel prif ddigwyddiad cyfathrebu gwyddonol Gogledd Cymru a'r ŵyl fwyaf o'i math yng Nghymru.

"Hoffwn ddiolch i'r holl gefnogwyr a chyfranwyr am eu hymrwymiad i'r digwyddiad dros y 14 blynedd diwethaf, ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld eto yn 2014."