Y ddau'n 'barod am ornest galed'

Justin Edinburgh ac Andy Morrell Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Justin Edinburgh (Casnewydd) ac Andy Morrell (Wrecsam) wedi arwain eu timau i Wembley ddwywaith yr un

Mae rheolwyr clybiau pêl-droed Casnewydd a Wrecsam yn hyderus o gyrraedd y Gynghrair Bêl-droed cyn i'r ddau gwrdd yn Wembley am y fraint o gael gwneud hynny.

Fe sicrhaodd Casnewydd eu lle yn rownd derfynol y gemau ail gyfle gyda buddugoliaeth o 2-0 dros ddau gymal yn erbyn Grimsby, gyda'r ail gymal brynhawn Sul.

Fe ddaeth hynny yn syth wedi buddugoliaeth Wrecsam o 5-2 dros ddau gymal yn erbyn Kidderminster.

Dyma fydd ail ymweliad y ddau dîm â Wembley dros gyfnod o flwyddyn.

Collodd Casnewydd i Efrog yn rownd derfynol Tlws yr FA yn 2012 ac roedd Wrecsam yn fuddugol yn yr un gystadleuaeth yn erbyn Grimsby fis diwethaf.

'Gornest galed'

Dywedodd rheolwr Casnewydd Justin Edinburgh: "Fe fydd hi'n ornest galed. Maen nhw'n dîm profiadol sydd wedi dangos hynny drwy'r tymor.

"Maen nhw eisoes wedi cael llwyddiant yn Wembley ac fe fydd yn achlysur gwych i bêl-droed Cymru.

"Rydym ni wedi teithio ymhell dros gyfnod byr ac rwy'n falch iawn, yn falch o'r chwaraewyr, y staff a'r cyfarwyddwyr."

'Cyfle gwell'

Roedd nifer yn ystyried Kidderminster yn un o'r timau gorau yn Uwchgynghrair Blue Square Bet wrth fynd i mewn i'r gemau ail gyfle, ac mae rheolwr Wrecsam Andy Morrell felly yn hyderus iawn ar ôl eu curo ddwywaith.

"Does dim pwynt cyrraedd Wembley, mwynhau'r diwrnod ac aros yn yr un adran," meddai.

"Ein nod ar ddechrau'r tymor oedd ennill dyrchafiad.

"Er i ni ddim llwyddo i gipio'r bencampwriaeth, mae gennym gyfle gwell nag yr ydym wedi ei gael dros y blynyddoedd diwethaf.

"Mae yna wythnos arall o ymarfer caled ac yna un gêm fawr arall o'n blaenau - dyna le mae'r sylw."

Straeon perthnasol