Y frech goch: Agor cwest

Gareth Williams Image copyright Wales News Service
Image caption Cafodd corff Gareth Colfer-Williams ei ddarganfod ar Ebrill 18.

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth dyn fu farw ac a oedd hefyd yn dioddef o'r frech goch.

Roedd Gareth Colfer-Williams yn 25 oed ac yn byw yn Abertawe.

Fe gafodd ei gorff ei ddarganfod ar Ebrill 18 ond doedd y profion post mortem ddim yn dangos ai'r ferch goch oedd achos ei farwolaeth.

Clywodd Crwner Abertawe Phillip Rogers fod yr awdurdodau'n aros am fwy o brofion.

Caniataodd i'r teulu drefnu'r angladd.

Clywodd y cwest fod y teulu wedi caniatáu i samplau meinwe gael eu cadw ar gyfer mwy o brofion gwyddonol.

942 yn diodde'

Mae yna gynnydd mawr yn achosion y frech goch yn ardal Abertawe a'r ffigyrau diwethaf yn dangos bod 942 wedi dal y salwch yn ystod y misoedd diwethaf.

Bydd y ffigyrau diweddaraf yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth.

Bellach mae 83 wedi cael triniaeth yn yr ysbyty ers dechrau'r gyfres o achosion.

Mae yna sesiynau galw heibio wedi cael eu cynnal ar benwythnosau.

Am wythnosau bydd mwy na 4,000 o ddisgyblion yn ardaloedd Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn cael cynnig y brechiad hefyd.

Mae hyn eisoes yn digwydd mewn ysgolion yn ardal Abertawe.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi gofyn i rieni wneud yn siŵr bod eu plant wedi cael y brechiad MMR cyn mynd i Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.