Dewis carfan y Llewod

Sam Warburton Image copyright Getty Images
Image caption Mae enw Sam Warburton yn cael ei grybwyll fel un allai fod yn gapten ar dîm y Llewod.

Mi fydd chwaraewyr rygbi yn cael gwybod os ydyn nhw wedi eu dewis i fod yn rhan o garfan y Llewod fore Mawrth.

Bydd y Llewod yn teithio i Hong Kong ac Awstralia'r haf yma lle y byddan nhw'n chwarae gemau yn erbyn y Barbariaid a thîm Awstralia.

Mae yna ddyfalu y bydd mwy o chwaraewyr o Gymru nag erioed yn y garfan yn dilyn llwyddiant y tîm cenedlaethol ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae diddordeb mawr wedi bod yn pwy fydd yn dod yn gapten i'r tîm hefyd gydag enw Sam Warburton wedi ei grybwyll fel ffefryn gan o leiaf un cwmni bwcis.

Credir bod yr hyfforddwr Warren Gatland yn ystyried Brian O'Driscoll a Paul O'Connell o Iwerddon fel dau allai fod yn gapten hefyd.

Ar ddechrau Mehefin y bydd y daith bum wythnos yn cychwyn gyda gêm yn erbyn y Barbariaid yn Hong Kong.

Bydd y prawf cyntaf yn erbyn Awstralia ar Fehefin 22, gyda'r ail brawf wythnos wedyn.

Yn Sydney ar Orffennaf y 6ed y bydd y prawf olaf.

Warren Gatland yw'r hyfforddwr ond mae Rob Howley, Neil Jenkins a'r ddau Sais Andy Farrell a Graham Rowntree yn ymuno gydag o fel aelodau o'r tîm hyfforddi.

Mae awdurdodau rygbi yn dweud y bydd y chwaraewyr yn cael gwybod pwy fydd yn y garfan ar yr un pryd a'r cyhoedd.

Hynny yw ni fydd y garfan eu hunain yn gwybod y cynnwys tan i'r cyhoeddiad swyddogol gael ei wneud am 11:00am fore Mawrth.

Mae cyn faswr Cymru, Stephen Jones, yn un o nifer sydd wedi awgrymu y gallai'r garfan gynnwys mwy na 15 o Gymry.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.