15 o Gymry yng ngharfan y Llewod

Llewod 2013

Fe fydd cynrychiolaeth gref o Gymry yng ngharfan y Llewod fydd yn teithio i Awstralia yn yr haf, gan gynnwys y capten Sam Warburton.

Cafodd y garfan ei chyhoeddi gan reolwr y Llewod, Andy Irvine, yn Llundain fore Mawrth ac mae 15 o garfan Cymru yn aelodau ohoni.

Fe fyddan nhw'n ymuno gyda Rob Howley a Neil Jenkins, aelodau o dîm hyfforddi'r prif hyfforddwr Warren Gatland.

Warburton yw'r capten ieuengaf erioed ar garfan y Llewod, a'r Cymro cyntaf i arwain y garfan ers Phil Bennett yn 1977.

Y gynrychiolaeth fwyaf erioed o Gymru i deithio gyda'r Llewod oedd 18 ar y daith i Seland Newydd yn 1977.

Roedd y gynrychiolaeth o Gymru, Lloegr (10) ac Iwerddon (9) yn gadarn er na chafodd Jonny Wilkinson ei gynnwys fel yr oedd rhai wedi darogan.

Dim ond tri Albanwr sydd wedi ennill eu lle yn y garfan.

Cafodd rheng ôl gyfan Cymru ei chynnwys ynghyd â Justin Tipuric fel pedwerydd blaenwr rheng ôl ond doedd dim lle i Ryan Jones fel blaenwr amryddawn yn y garfan.

Wedi i'r garfan o 37 gael ei chyhoeddi, cododd Warren Gatland ar ei draed i gyhoeddi mai ei gapten ar gyfer y daith fyddai Sam Warburton.

Roedd o leia' un cwmni bwcis wedi atal betio ar Warburton fel arweinydd y daith ers peth amser.

Mae chwech o olwyr y garfan o Gymru, gyda Dan Biggar y dyn anffodus i beidio ennill ei le.

Doedd dim lle chwaith i James Hook er gwaetha' gobeithion rhai.

Mae'r dewis gan Warren Gatland i gynnwys pac cyfan o Gymru yn y tîm prawf ond fe fydd o leia' un Cymro'n siomedig gan fod pedwar o reng ôl Cymru ymhlith y 37 fydd yn teithio i Awstralia.

Carfan Llewod Prydain ac Iwerddon i deithio Awstralia :-

Olwyr = Leigh Halfpenny (Cymru), Stuart Hogg (Yr Alban), Rob Kearney (Iwerddon), Tommy Bowe (Iwerddon), Alex Cuthbert (Cymru), Sean Maitland (Yr Alban), George North (Cymru), Jonathan Davies (Cymru), Brian O'Driscoll (Iwerddon), Jamie Roberts (Cymru), Manu Tuilagi (Lloegr), Owen Farrell (Lloegr), Jonathan Sexton (Iwerddon), Connor Murray (Iwerddon), Mike Phillips (Cymru), Ben Youngs (Lloegr).

Blaenwyr = Dan Cole (Lloegr), Ciaran Healy (Iwerddon), Gethin Jenkins (Cymru), Adam Jones (Cymru), Matt Stevens (Lloegr), Mako Vunipola (Lloegr), Dylan Hartley (Lloegr), Richard Hibbard (Cymru), Tom Youngs (Lloegr), Ian Evans (Cymru), Richie Gray (Yr Alban), Alun Wyn-Jones (Cymru), Paul O'Connell (Iwerddon), Geoff Parling (Lloegr), Tom Croft (Lleogr), Toby Faletau (Cymru), Jamie Heaslip (Iwerddon), Dan Lydiate (Cymru), Sean O'Brien (Iwerddon), Justin Tipuric (Cymru), Sam Warburton (Cymru; capten).