Tân: Barnwr i dderbyn mwyafrif

Gyda'r cloc o'r chwith: Liam Timbrell; Lee-Anna Shiers a'i mab Charlie; nith Skye a nai Bailey Image copyright Facebook
Image caption Bu farw pum aelod o'r un teulu yn y tân

Mae rheithgor achos llofruddiaeth pump fu farw wedi tân yn eu fflat ym Mhrestatyn wedi cael gwybod fod y barnwr yn fodlon derbyn barn y mwyafrif.

Dechreuon nhw drafod am 9.30am fore Gwener.

Mae Melanie Smith, 43 oed, wedi gwadu'r cyhuddiadau o lofruddio dau oedolyn a thri phlentyn ifanc oherwydd tân mewn fflat uwchben ei fflat hi ym Mhrestatyn ym mis Hydref y llynedd.

Mae hefyd wedi gwadu'r cyhuddiad o fygwth llosgi tŷ menyw arall.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug roedd y barnwr, Mr Ustus John Griffith Williams, wedi dweud wrth y rheithgor i fod yn "ddiduedd" wrth ystyried.

Rhaid i o leia' 10 o aelodau'r rheithgor gytuno er mwyn i hynny ddigwydd.

Bu farw Lee-Anna Shiers, 20 oed, ei nai Bailey, pedair oed, ei nith Skye, dwy oed, mewn tân ar Hydref 19.

Cafodd ei mab 15 mis oed, Charlie, a'i phartner Liam Timbrell, 23 oed, eu hachub ond bu farw'r ddau yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Straeon perthnasol