Arestio dau ar amheuaeth o gynllwynio

Scotland Yard
Image caption Ymgyrch Elveden: Hyd yn hyn mae 64 wedi cael eu harestio.

Mae dau wedi eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Cafodd cyn-swyddog carchar 37 oed ei arestio ym Mhort Talbot.

Dywedodd Scotland Yard fod y dyn wedi ei arestio am 6am a'i fod yn cael ei holi mewn gorsaf heddlu yn ne Cymru. Mae e bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd menyw 36 oed ei harestio yn Tower Hamlets, Llundain.

Dywedodd yr heddlu ei bod hi wedi ei harestio am 6am a'i bod yn cael ei holi mewn gorsaf heddlu yn Nwyrain Llundain.

Rhan yw hyn o Ymgyrch Elveden sy'n ymchwilio i honiadau o daliadau anaddas i swyddogion cyhoeddus.

Hyd yn hyn mae 64 wedi cael eu harestio.