White â thipyn o waith i'w wneud

Michael White, 21, yn y Crucible Image copyright Getty Images
Image caption Michael White, 21, yn y Crucible

Ar ôl eu sesiwn gynta' yn eu gêm yn rownd wyth olaf Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield, mae'r Cymro Michael White ar ei hôl hi o chwe ffram i ddwy yn erbyn Ricky Walden.

Bydd y ddau yn ôl wrth y bwrdd yn y Crucible am 2:30pm ddydd Mercher.

Mae White, o Gastell-nedd, yn chwarae am y tro cynta' yn y bencampwriaeth.

Llwyddodd y chwaraewr 21 oed i gyrraedd y chwarteri ar ôl trechu ei gyd Gymro, Mark Williams - sydd wedi ennill y bencampwriaeth ddwywaith - ac yna Dechewat Poomjaeng o Wlad Thai.

Ond roedd White, y chwaraewr ieuenga' sydd ar ôl yn y gystadleuaeth, wedi ei chael yn anodd yn erbyn Walden yn ystod y sesiwn gynta' ddydd Mawrth.

Wnaeth o ddim llwyddo i gael rhediad o fwy na 40, tra roedd Walden wedi gorffen ar rediad o 113.

Er iddo gael ei eni yng Nghaer, mae Walden bellach yn byw ym Magillt, Sir y Fflint.

Canlyniadau'r Cymry:

Rownd yr wyth olaf

Dydd Mawrth Ebrill 30

Ricky Walden (Lloegr) 6-2 Michael White (ailddechrau chwarae am 2:30pm ddydd Mercher)

Rownd 2

Dydd Gwener Ebrill 26

Michael White 13-3 Dechawat Poomjaeng

Rownd 1

Dydd Mercher Ebrill 24

Judd Trump (Lloegr) 10-5 Dominic Dale

Marco Fu (Hong Kong) 10-7 Matthew Stevens

Dydd Mawrth Ebrill 23

Matthew Stevens 3-6 Marco Fu (Hong Kong)

Dydd Sul, Ebrill 21

Mark Williams 6-10 Michael White

Straeon perthnasol