Damwain: Anafiadau difrifol

Aed â gyrrwr i'r ysbyty ag anafiadau difrifol oherwydd damwain ffordd ar yr A40 fore Mercher.

Cafodd yr A40 ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng y B4560 (Bwlch) a'r B4558 (Aberhonddu).

Roedd cerbyd wedi troi drosodd.

Cafodd diffoddwyr o Aberhonddu a Chrughywel eu galw am 7.43am.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101, meddai'r heddlu.