Cyhoeddi carfan Cymru i fynd i Japan

Ken Owens Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gwobr gysur i Ken Owens am beidio cael ei gynnwys yng ngharfan y Llewod fydd cael teithio gyda Chymru i Japan

Mae Cymru wedi cyhoeddi'r garfan gychwynnol fydd yn teithio i Japan am ddwy gêm ym mis Mehefin.

Robin McBryde fydd prif hyfforddwr y daith yn absenoldeb Warren Gatland a Rob Howley, sy'n rhan o dîm hyfforddi'r Llewod yn Awstralia.

Roedd 15 o'r garfan o 32 yn rhan o garfan Cymru enillodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gynharach eleni, ac mae 11 o'r garfan heb ennill cap hyd yma.

Cyn i Gymru wynebu Japan yn Osaka ar Fehefin 8, bydd y garfan yn cael ei chwtogi o 32 i 27. Bydd yr ail gêm yn erbyn Japan ar Fehefin 15.

Dywedodd Robin McBryde: "Rydym wedi dewis carfan gyda'r cymysgedd iawn o brofiad ac ieuenctid ac mae hwn yn gyfle da i chwaraewyr wneud eu marc ar y llwyfan rhyngwladol.

"Rydym yn teithio i Japan fel Pencampwyr y Chwe Gwlad, ac yn gobeithio gorffen y tymor ar nodyn uchel.

Carfan Cymru - Taith i Japan

Blaenwyr :- Ryan Bevington (Gweilch), Rhys Gill (Saracens), Sam Hobbs (Gleision), Ken Owens (Scarlets), Emyr Phillips (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Scott Andrews (Gleision), Craig Mitchell (Caerwysg), Rhodri Jones (Scarlets), Bradley Davies (Gleision), Lou Reed (Gleision), Andrew Coombs (Dreigiau), James King (Gweilch), Aaron Shingler (Scarlets), Dan Baker (Gweilch), Rob McCusker (Scarlets), Andries Pretorius (Gleision), Josh Navidi (Gleision)

Olwyr :- Lloyd Williams (Gleision), Tavis Knoyle (Scarlets), Aled Davis (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Scott Williams (Scarlets), Ashley Beck (Gweilch), Owen Williams (Gleision), Jonathan Spratt (Gweilch), Dafydd Howells (Gweilch), Liam Williams (Scarlets), Harry Robinson (Gleision), Tom Prydie (Dreigiau), Steven Shingler (Gwyddelod Llundain)