Cynghorydd yn gwadu achosi ffrwydradau

John Larsen
Image caption Cafodd John Larsen ei gadw yn y ddalfa yn Llys y Goron Caernarfon

Clywodd barnwr yn Llys y Goron Caernarfon bod cyn faer Dinbych yn gwadu cyhuddiadau iddo achosi ffrwydradau yn y dref.

Ymddangosodd John Larsen o Bwllgrawys, Dinbych, gerbron y llys wedi ei gyhuddo o achosi ffrwydrad anghyfreithlon i beryglu bywyd neu achosi niwed difrifol i berson neu eiddo.

Bu'n rhaid i drigolion adael eu cartrefi ym Mhwllgrawys ar ddau achlysur ym mis Mawrth wrth i'r heddlu archwilio tŷ.

Cafodd Mr Larsen, 46 oed, ei gadw yn y ddalfa.

Mewn gwrandawiad cychwynnol yng Nghaernarfon ddydd Mercher, dywedodd yr erlynydd Wyn Lloyd Jones bod 50 o ddatganiadau wedi eu casglu fel rhan o'r ymchwiliad.

Ond clywodd y llys y gallai fod yn dri mis arall cyn y bydd adroddiadau labordy'r Swyddfa Gartref ar gael i'w hystyried.

Roedd Mr Larsen, sy'n gynghorydd tref gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol, yn faer Dinbych yn 1999.

Cafodd glywed nad yw'r achos yn ei erbyn yn debyg o ddechrau tan fis Hydref, ac y gallai bara am hyd at dair wythnos.

Bydd gwrandawiad cychwynnol arall yn cael ei gynnal ar Orffennaf 3.

Straeon perthnasol