White yn gadael y Crucible

Michael White, 21, yn y Crucible Image copyright Getty Images
Image caption Michael White, 21, yn y Crucible

Mae'r Cymro Michael White wedi colli yn rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.

Roedd White wedi dechrau'r ail sesiwn brynhawn Mercher 6-2 ar ei hôl hi yn erbyn Ricky Walden, ond fe gadwodd mewn cysylltiad gan rannu'r wyth ffram i'w adael 10-6 y tu ôl i Walden cyn y trydydd sesiwn.

Cipiodd Walden y ffrâm gyntaf i'w gwneud hi'n 11-6. Roedd hi'n agos, gyda'r ddau chwarae yn methu cyfleoedd ar y ddu olaf cyn i Walden ei suddo i ennill.

Methodd White gyfle am rediad da yn y ffrâm nesa hefyd, ac fe enillodd Walden honno hefyd i ddod o fewn un ffrâm i fuddugoliaeth.

Ricky Walden gipiodd y ffrâm olaf hefyd gan wneud y sgor terfynol yn 12-6.

Mae ef wedi sicrhau ei le yn y rownd gynderfynol.

Roedd White, o Gastell-nedd, yn chwarae am y tro cynta' yn y bencampwriaeth.

Llwyddodd y chwaraewr 21 oed i gyrraedd y chwarteri ar ôl trechu ei gyd Gymro, Mark Williams - sydd wedi ennill y bencampwriaeth ddwywaith - ac yna Dechewat Poomjaeng o Wlad Thai.

Er iddo gael ei eni yng Nghaer, cafodd Walden ei fagu ym Magillt, Sir y Fflint.

Canlyniadau'r Cymry:

Rownd yr wyth olaf

Dydd Mercher Mai 1

Ricky Walden (Lloegr) 13-6 Michael White

Rownd 2

Dydd Gwener Ebrill 26

Michael White 13-3 Dechawat Poomjaeng

Rownd 1

Dydd Mercher Ebrill 24

Judd Trump (Lloegr) 10-5 Dominic Dale

Marco Fu (Hong Kong) 10-7 Matthew Stevens

Dydd Mawrth Ebrill 23

Matthew Stevens 3-6 Marco Fu (Hong Kong)

Dydd Sul, Ebrill 21

Mark Williams 6-10 Michael White

Straeon perthnasol