Eisteddfodau bach angen newid

Mae angen i eisteddfodau bach sydd yn 'gwegian' edrych am atebion gan rhai mwy llwyddiannus, yn ôl y Prifardd Meirion MacIntyre Huws.

Mewn cyfweliad ar raglen Newyddion 9 nos Fercher mae'r Swyddog Datblygu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn cyfaddef fod ambell un o'r 120 o eisteddfodau bach yng Nghymru yn "gwegian..." gyda chynulleidfaoedd pryderus o fach.

Wrth sôn am restr testunau rhai eisteddfodau, cyfeiriodd Meirion MacIntyre Huws at eiriau Gwilym Hughes, Llywydd Eisteddfod Mynytho, a oedd wedi awgrymu bod angen gweithredu fel mae llawfeddyg yn edrych ar glaf: "Mae'n rhaid i'r llawfeddyg fynd â'r gyllell weithiau.

"Mae'n rhaid bod yn ddewr, ac mae'r claf ofn mae'n siŵr; ond mae'n rhaid mynd â'r gyllell, tynnu darn o'r drwg o 'na.

"Nid torri pen y claf i ffwrdd - does 'na neb yn gofyn am hynny, ond tynnu'r drwg allan a rhoi gwell cyfle i oroesi i'r dyfodol i'r claf; ac efallai bod hynny'n wynebu ambell 'steddfod".

Defnyddio'r we yw un ffordd ymlaen, meddai, a dysgu gwersi gan eisteddfodau eraill.

Mae Cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, Megan Jones wedi cydnabod na fyddai hi yn synnu pe byddai yna rhai eisteddfodau yn dod i ben yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Swyddogion datblygu

Dau Swyddog Datblygu sydd gan y gymdeithas yng Nghymru ac maent yn gweithio rhan amser. Mae un yn y gogledd a Dana Edwards yn cael ei chyflogi yn y de.

Mae'r swyddi'n cael eu hariannu gyda grant gan Lywodraeth Cymru sydd eleni yn £46,000

Wrth ymateb i sylwadau Meirion MacIntyre Huws dywedodd Megan Jones:

"...Dwi'n credu beth mae Mei yn golygu yw bod sawl 'steddfod a dim lot o gystadleuwyr a sawl cystadleuaeth a neb yn cystadlu.

"Fydden i ddim yn tynnu'r gyllell at yr eisteddfodau 'ma, ond ail-edrych ar y cystadlaethau.

"Falle dod a nhw lan bach yn fwy modern i gyfateb a beth mae plant a phobl ifanc yn ei wneud heddi."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.