Morgannwg â'r fantais

Murray Goodwin Image copyright Getty Images
Image caption Murray Goodwin oedd prif sgoriwr Morgannwg gyda 69 yn ei fatiad cyntaf

Mae gan Forgannwg fantais o 119 ar ddiwedd eu batiad cyntaf yn y gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sir Gaerhirfryn ym Mae Colwyn.

Murray Goodwin oedd seren batiad cyntaf Morgannwg gan sgorio 69, ac fe ddaeth y batiad i ben ychydig ar ôl cinio ar ail ddiwrnod y chwarae am 242.

Roedd hynny'n ymateb i gyfanswm yr ymwelwyr o 123 yn eu batiad cyntaf nhw.

Simon Kerrigan oedd bowliwr mwyaf effeithiol Sir Gaerhirfryn gan orffen gyda ffigyrau o 4-48.

Wrth i'r ymwelwyr ddechrau eu hail fatiad, roedd Michael Hogan yn seren i Forgannwg unwaith eto.

Cipiodd y bowliwr cyflym dair wiced cyn cloi'r diwrnod wrth i Sir Gaerhirfryn gyrraedd 104 am 4 wiced.

Wrth fynd i mewn i'r trydydd diwrnod felly mae Morgannwg yn dal ar y blaen o 15 rhediad, gyda chwe wiced yn weddill gan yr ymwelwyr.

Morgannwg v Sir Gaerhirfryn - Pencampwriaeth y Siroedd, Ail Adran; Bae Colwyn

Sgôr ddiweddaraf (diwedd yr ail ddiwrnod)

Sir Gaerhirfryn - (batiad cyntaf) 123

Morgannwg - (batiad cyntaf) 242

Sir Gaerhrifryn - (ail fatiad) 104 am 4

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.