Colli apêl yn erbyn hyd dedfryd

Bleddyn King Image copyright Arall
Image caption Yn Hydref 2012 cafwyd King yn euog o lofruddio

Mae dyn o Abercynon gafodd ei anfon i garchar am lofruddio dyn ger Caerdydd wedi colli ei apêl yn erbyn hyd y ddedfryd.

Bydd Bleddyn King, 19 oed, yn gorfod treulio o leiaf 28 o flynyddoedd am drywanu'r garddwr 63 oed David Evans i farwolaeth yn ei gartref ym Mhentyrch.

Yn Llys y Goron Caerdydd yn Hydref 2012 y cafwyd King yn euog.

Clywodd y llys ei fod wedi tynnu lluniau o gorff y dyn yr oedd wedi ei drywanu 72 o weithiau.

Defnyddiodd King ei ffôn symudol i dynnu fideo o'r olygfa wedi iddo ladd Mr Evans.

Roedd wedi trywanu Mr Evans gyda chymaint o rym fel bod llafn y gyllell wedi plygu.

Ar y pryd dywedodd y barnwr Mr Ustus MacDuff: "Roedd yn ymosodiad milain a chreulon - rhaid bod y boen a'r ofn yr oedd yn teimlo yn ei funudau olaf yn annirnadwy.

"Mae hyn yn ddrygioni y tu hwnt i'r amgyffred - rydych yn ddyn peryglus."