Morgannwg yn colli wedi chwalfa

Murray Goodwin Image copyright Getty Images
Image caption Murray Goodwin oedd prif sgoriwr Morgannwg gyda 69 yn ei fatiad cyntaf

Ychydig ar ôl te ar drydydd diwrnod eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sir Gaerhrifryn ym Mae Colwyn, roedd Morgannwg ar drywydd buddugoliaeth gynta'r tymor.

Llai na dwy awr yn ddiweddarach, roedd eu batwyr wedi methu'n llwyr, a'r ymwelwyr enillodd yr ornest.

Dechreuodd y diwrnod yn dda i Forgannwg. Collodd yr ymwelwyr gweddill eu wicedi am gyfanswm o 272 yn eu hail fatiad - hynny'n gosod nod i Forgannwg o 154 i enill y gêm.

Wrth i Will Bragg agor y batio yn rymus gyda sgor o 61, roedd hi'n ymddangos y byddai'r dasg yn hawdd wrth iddyn nhw gyrraedd 93 am ddwy wiced.

Ond yna daeth Simon Kerrigan a Glen Chapple at ei gilydd i fowlio i Sir Gaerhrifryn, ac fe ddechreuodd y chwalfa.

Cipiodd Kerrigan bum wiced a Chapple pedair wrth i fatwyr Morgannwg ddisgyn un ar ôl y llall, a doedd dim modd atal y drwg.

Erbyn diwedd y chwarae, roedd Morgannwg allan am 139, gyda Sir Gaerhrifryn felly'n fuddugol o 14 o rediadau.

Morgannwg v Sir Gaerhirfryn - Pencampwriaeth y Siroedd, Ail Adran; Bae Colwyn

Sgôr terfynol :-

Sir Gaerhirfryn - (batiad cyntaf) 123

Morgannwg - (batiad cyntaf) 242

Sir Gaerhrifryn - (ail fatiad) 272

Morgannwg - (ail fatiad) 139

Sir Gaerhirfryn yn ennill o 14 o rediadau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.