Dau glwb am wireddu breuddwyd

Justin Edinburgh ac Andy Morrell Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Justin Edinburgh (Casnewydd) ac Andy Morrell (Wrecsam) wedi arwain eu timau i Wembley ddwywaith yr un

Bydd dau glwb o Gymru yn ceisio gwireddu uchelgais yn Wembley brynhawn Sul wrth geisio adennill eu safle yn y Cynghrair Bêl-droed.

I Gasnewydd, mae'n freuddwyd sydd wedi bod yn ffrwtian ers bron chwarter canrif o hanes cythryblus.

Pan aeth clwb gwreiddiol Newport County i'r wal, fe sefydlwyd y clwb newydd yn 1989, breuddwyd yn unig oedd hynny gan fod y clwb wedi gorfod dechrau o'r dechrau ar waelod y pyramid pêl-droed yn Lloegr.

Colli clwb

Cadeirydd y clwb bryd hynny oedd David Hando, ac mae'n cofio'n iawn y diwrnod y dechreuodd y daith:

"Roedden ni gyd yn gefnogwyr Newport County, ac rwy'n cofio meddwl ein bod wedi colli ein clwb.

"Rwy'n cofio cyfarfod ar noson gynnes ym mis Mehefin yn Sefydliad Lysaght. Roedd 400 yno a phawb yn benderfynol o beidio gadael Casnewydd heb dîm.

"Fe wnaethon ni ffurfio'r clwb presennol gyda'r bwriad o ddychwelyd i'r Cynghrair. Dyna oedd y nod."

Alltudion

Os nad oedd hynny'n ddigon anodd, roedd y tîm yn gorfod chwarae eu gemau cartref yn nhref Moreton-in-Marsh yn Sir Gaerloyw gan nad oedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn fodlon iddyn nhw chwarae yng Nghymru.

Ond ar ddiwedd y tymor cyntaf roedden nhw bencampwyr Cynghrair Hellenic, ac roedd y cam cyntaf wedi ei gymryd.

Yn 1994 enillodd y clwb achos llys oedd yn caniatáu iddyn nhw ddychwelyd i chwarae yng Nghymru, ac roedd dyrchafiad yn beth cyson i'r Alltudion.

Bellach un gêm arall sy'n rhaid ei hennill er mwyn ennill dyrchafiad yn ôl i adran 2 o'r Cynghrair Bêl-droed.

Aeth Casnewydd i Wembley am y tro cyntaf flwyddyn yn ôl wrth gyrraedd rownd derfynol Tlws yr FA, ac er mai colli i Efrog oedd eu hanes y diwrnod hwnnw mae rhai yn credu y bydd hynny'n sbardun pellach i wireddu'r freuddwyd.

Degawd cythryblus

Breuddwyd debyg sydd gan Wrecsam.

Ar ddiwedd tymor cyntaf y mileniwm newydd, Wrecsam oedd yr uchaf o glybiau Cymru yn y pyramid pêl-droed yn Lloegr, gan orffen yn uwch na Chaerdydd ac Abertawe.

Ond wrth i ddinasoedd y de wynebu ei gilydd yn uchelfannau'r Uwchgynghrair y tymor nesaf, fe fydd Wrecsam yn fwy na hapus i fod yn brwydro am bwyntiau yn Adran 2.

Dyna fydd eu gwobr os fyddan nhw'n llwyddo ddydd Sul wrth geisio dychwelyd i'r Cynghrair wedi bwlch o bum mlynedd.

Ond bu'r pum mlynedd yna - yn wir y degawd diwethaf - yn gythryblus dros ben i glwb y Cae Ras.

Fwy nag unwaith mae'r clwb wedi bod yn agos i fynd i'r wal, ond bellach y cefnogwyr sy'n rhedeg y clwb, ac mae'r golygon am y dyfodol yn fwy gobeithiol.

Ar ddechrau tymor 2011/12, llwyddodd y cefnogwyr i godi £100,000 mewn saith awr er mwyn sicrhau bod y clwb yn medru chwarae eu gemau ar ddechrau'r tymor.

Ennill y Tlws

Dywedodd eu prif weithredwr Don Bircham: "Mae gennym uchelgais i fod yn glwb yn y Bencampwriaeth.

"Does dim pwrpas o'n safbwynt ni i eistedd yn rhengoedd isaf y Cynghrair. Rydym wedi gweld beth mae Abertawe wedi llwyddo i wneud gyda seiliau cadarn."

Dros y tri thymor diwethaf, boddi wrth ymyl y lan fu hanes Wrecsam, gan golli ddwywaith yn y gemau ail gyfle i Luton.

Mae Wrecsam hefyd wedi bod yn Wembley yn ddiweddar, ac wedi sicrhau buddugoliaeth yn ffeinal Tlws yr FA yn erbyn Grimsby.

Fe fydd dydd Sul yn ddiwrnod o ddathlu felly, ond hefyd yn ddiwrnod o alaru. Fel y dywedodd cyn rheolwr Wrecsam, Dixie McNeil:

"Mae'r ddau glwb wedi cael cyfnodau erchyll yn y gorffennol. Maen nhw'n ddau glwb Cymreig da, ac mae'r ddau wedi gwneud yn wych i gyrraedd y rownd derfynol.

"Yr unig dristwch yw y bydd rhaid i un clwb o Gymru ddioddef pan fydd y gêm ar ben."

Straeon perthnasol