Ponty a'r Crysau Duon yn barod

Cwpan Swalec Image copyright WRU
Image caption Bydd Castell-nedd yn herio Pontypridd yn rownd derfynol Cwpan Swalec am 5:30pm nos Sadwrn

Mae prif hyfforddwr clwb rygbi Castell-nedd wedi dweud y byddai ennill Cwpan Swalec yn Stadiwm y Mileniwm nos Sadwrn yn achub tymor siomedig y clwb.

Ar ddiwedd tymor anghyson yn Uwchgynghrair y Principality, bydd tîm Pat Horgan yn herio Pontypridd yn y rownd derfynol.

Mae'n dasg anodd yn erbyn y tîm sydd wedi gorffen ymhell o flaen y gweddill yn yr Uwchgynghrair, ond mae Horgan yn credu y gall ei dîm greu sioc.

"Rydym yn gwybod y bydd hi'n anodd," meddai, "gan fod Ponty wedi rhagori'n gyson trwy gydol y tymor.

"Ond mae gennym brofiad yn y tîm, ac mae angen iddyn nhw berfformio ynghyd â'n sêr ifanc fel Luc Jones, Dai Langdon a Dafydd Howells."

Collodd Pontypridd yn y rownd derfynol y llynedd i Cross Keys - clwb y mae Castell-nedd wedi ei guro ar y ffordd i rownd derfynol eleni.

Ond dyw Ponty ddim ar fin llaesu dwylo, yn ôl eu capten Chris Dicomidis.

"Mae pawb yma'n gwybod nad ydyn ni wedi ennill dim hyd yma. Mae gennym ddwy gêm anferth i orffen y tymor.

"Rydym wedi cyrraedd y ffeinal ar ôl dwy rownd galed, ond gobeithio y gallwn ni chwarae'r math o rygbi yr ydym yn hoffi ddydd Sadwrn."