Achub dynes ar ôl iddi ddisgyn o gwch

Cafodd dynes ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl disgyn oddi ar gwch hwylio ger Trwyn yr As Fach (Nash Point) ym Mro Morgannwg.

Roedd capten y cwch 35 troedfedd wedi anfon neges argyfwng ar y radio am 7:10am ddydd Sadwrn yn galw am gymorth.

Roedd y ddynes yn cael trafferth cael yn ôl ar y cwch ond roedd hi'n gwisgo siaced achub ac roedd hi wedi ei chlymu i'r cwch.

Cafodd ei thynnu o'r dŵr gan hofrennydd o Awyrlu Chivenor yn Nyfnaint, cyn cael ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Yn ôl llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau, roedd hi'n gwella yn dda.

Meddai David Jones, o Wylwyr y Glannau Abertawe: "Allwn ni ddim pwysleisio ddigon pa mor bwysig yw hi i bobl baratoi'n dda os ydyn nhw'n mynd allan i'r môr.

"Rydym o hyd yn cynghori pobl, os ydyn nhw'n mynd i hwylio o ran pleser, neu'n gweithio yn y dŵr neu'n pysgota, fe ddylen nhw wisgo siaced achub. Ond does dim pwynt cael y pethau hyn os nad ydych yn eu defnyddio."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.