Abertawe 0-0 Man City

Aguero o Man City yn cael ei daclo gan amddiffynwr Abertawe Chico Flores yn ystod y gêm yn Stadiwm Liberty Image copyright Getty Images
Image caption Aguero o Man City yn cael ei daclo gan amddiffynwr Abertawe Chico Flores yn ystod y gêm yn Stadiwm Liberty

Dydy Manchester City yn dal ddim wedi llwyddo i sgorio yn Stadiwm Liberty wedi gêm ddi-sgôr yn erbyn Abertawe brynhawn Sadwrn.

Yr ymwelwyr gafodd y gorau o'r cyfleoedd, gyda'r eilydd Edin Djeko yn methu gôl agored bum munud o'r diwedd.

Roedd hi'n gêm digon di-nod ac mae Man City yn parhau saith pwynt uwchlaw Chelsea.

Er nad ydynt wedi ennill gêm ers eu buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Newcastle ar Fawrth 2, mae'r Elyrch yn parhau yn y nawfed safle.

Ond bydd eu blaenwr Michu yn colli gweddill y tymor ar ôl anafu llinyn y gar yn ystod y gêm.

Roedd capten Abertawe Ashley Williams yn gawr yng nghalon yr amddiffyniad wrth i City roi pwysau ar y tîm cartref yn yr ail hanner.

Methodd Djeko gyfle euraid i gipio buddugoliaeth i Man City ym munudau olaf y gêm, gyda'i ergyd yn mynd heibio'r postyn.

Carreg filltir

Roedd y gêm yn garreg filltir bwysig i'r Elyrch - roedd hi'n 10 mlynedd i'r diwrnod ers iddynt guro Hull City ac adenill eu lle yn y prif gynghrair bêl-droed.

Dechreuodd Abertawe gyda Leon Britton yng nghanol cae - yr unig chwaraewr sy'n dal gyda'r clwb a gurodd Hull 0 4-2 yn 2003.

Daeth cyfle cynnar i Abertawe, gyda Pablo Hernandez yn ergydio dros y bar o 10 llath, a Michu wedyn yn methu'r targed o chwe llath.

Cafodd y ddau gyfle eu creu gan Nathan Dyer, oedd yn y tîm yn lle Ki Sung-Yeung, sydd wedi'i anafu.

Fe ddylai City fod wedi sgorio pan giciodd Samir Nasri'r bêl i freichiau Michel Vorm ag yntau'n agos at y gôl.

Dechreuodd Manchester City yr ail hanner gydag Edin Dzeko yn lle Yaya Tore, ac er iddo ddangos mwy o egni'n syth, doedd o ddim yn gallu cael heibio Ashley Williams.

Ond gêm digon di-fflach oedd hi ar y cyfan, gyda nifer o gyfleoedd i sgorio yn cael eu colli, yn enwedig gan Man City.

TABL UWCHGYNGHRAIR LLOEGR
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Man United 35 43 85
2. Man City 35 30 72
3. Chelsea 34 33 65
4. Arsenal 36 30 65
5. Tottenham 35 18 65
6. Everton 35 14 59
9 ABERTAWE 35 -1 43

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.