Mwy o amser i holi tri am farwolaeth dyn ym Mangor

Ffordd y Tywysog, Bangor
Image caption Arbenigwyr fforensig yn archwilo'r safle ar Ffordd y Tywysog fore Sadwrn

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cael rhagor o amser i holi tri o bobl mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 50 oed, fu farw mewn amgylchiadau amheus ym Mangor nos Wener.

Cafodd yr heddlu eu galw am 11:25pm wedi adroddiadau ei bod yn ymddangos fod dyn wedi disgyn o ffenestr ar lawr uchaf fflat ar Ffordd y Tywysog.

Aethpwyd â'r dyn i Ysbyty Gwynedd, Bangor, ble y bu farw'n ddiweddarach.

Mae'r heddlu yn trin y digwyddiad fel un amheus ac mae tri o bobl yn cael eu holi yng ngorsaf heddlu Caernarfon.

Am 1:15pm ddydd Sul cafodd plismyn 36 awr yn ychwanegol i holi'r ddau ddyn ac un ddynes.

Roedd yr ardal o gwmpas y fflat wedi cael ei gau i ffwrdd i'r cyhoedd am gyfnod tra bod arbenigwyr fforensig yn archwilio'r eiddo.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Andy Williams: "Rydym yn trin y farwolaeth fel un amheus ac mae tri o bobl, dau ddyn ac un ddynes, yn cael eu cadw yng ngorsaf heddlu Caernarfon ble byddan nhw'n cael eu holi gan dditectifs."

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.