Morgannwg yn ennill eu gêm Pro40

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Roedd Morgannwg yn fuddugol yn eu gêm undydd gyntaf y tymor hwn ym Mae Colwyn.

Sir Efrog oedd yr ymwelwyr yn y gêm ym Mhencampwriaeth y Pro40, a Morgannwg alwodd yn gywir a dewis batio.

Fe brofodd y penderfyniad yn un cywir wrth i fatwyr y tîm cartref sgorio'n gyflym gyda Will Bragg, Chris Cooke a Marcus North i gyd yn cyrraedd eu hanner cant.

North oedd y prif sgoriwr gyda 68, ac fe ddaeth cyfraniad cyflym iawn hefyd gan Murray Goodwin a sgoriodd 45 oddiar 28 pelen wrth i Forgannwg sgorio cyfanswm o 285 am 7 wiced yn eu 40 pelawd.

Dechreuodd batiad Sir Efrog yn drychinebus wrth iddyn nhw golli dwy wiced yn y belawd gyntaf gan Graham Wagg.

Ond yna daeth partneriaeth o 92 rhwng y capten Andrew Gale a Gary Ballance i roi gobaith iddyn nhw. Fe adawodd Gale am 65 a Ballance am 50 o fowlio Dean Cosker.

Fe ddaeth cyfraniad o 53 gan Jonny Bairstow i'w gwneud hi'n ddiweddglo nerfus i Forgannwg, ond pan gipiodd Will Owen wiced Bairstow, y tîm cartref oedd y ffefrynnau.

Collodd yr ymwelwyr eu wiced olaf gyda'r sgôr ar 257 o roi buddugoliaeth i Forgannwg o 28 rhediad.

Pencampwriaeth Pro40 - Morgannwg v. Sir Efrog ym Mae Colwyn :-

Sgor terfynol

Morgannwg - 285 am 7 wiced (40 pelawd)

Sir Efrog - 257 i gyd allan (38.2 pelawd)

Morgannwg yn fuddugol o 28 rhediad.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.