Cynhyrchwyr seidr a pherai Cymru yn dathlu

Alan a Jo Wordsworth Image copyright Springfield Cider
Image caption Cafodd cwmni Springfield, o Sir Fynwy, ei sefydlu yn 1998

Mae seidr o Sir Fynwy wedi ennill y brif wobr ym mhencampwriaeth Seidr a Pherai CAMRA.

Fe enillodd Springfield Wobbly Munk, o Sir Fynwy, y fedal aur yng nghategori'r seidr, a denu clod uchel gan feirniaid y gystadleuaeth - a hynny er gwaetha' haf "ofnadwy" i dyfwyr y llynedd.

Enillodd CJ's, ychydig filltiroedd i ffwrdd ym Mrynbuga, y fedal arian am eu seidr hwythau.

Yng nghategori'r perai, cipiodd Gwynt y Ddraig o Fro Morgannwg y fedal arian, tra bod Raglan Cider Mill o Sir Fynwy wedi mynd â'r efydd.

Mae seidr yn cael ei wneud o afalau, tra bod perai yn cael ei wneud o ellyg.

'Blas arbennig'

Yn ôl y beirniaid, roedd seidr Springfield Wobbly Munk â "chydbwysedd gwych a blas arbennig o afalau a lemon chwerw."

Dywedodd perchennog y cwmni, Alan Wordsworth: "Rydym wrth ein boddau ond wedi'n syfrdanu gan fod y llynedd yn flwyddyn ofnadwy o ran afalau.

"Ond gan ein bod yn gweithio flwyddyn ar ei hôl hi o ran ein seidr, roedd yr effaith wedi'i leddfu gan ein bod yn gallu bod yn gyfrwys wrth gymysgu."

Cafodd y bencampwriaeth ei chynnal yng Ngŵyl Gwrw a Seidr Reading dros benwythnos Mai 4 a 5.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.