Tân mawr mewn hen ffatri yng Nghaerdydd

Tân yn Llandaf Image copyright Michael Paterson
Image caption Dechreuodd y tân ychydig cyn 5:00pm ddydd Sul

Mae hyd at 40 o ddiffoddwyr yn ceisio taclo tân mawr mewn hen ffatri yng ngogledd Llandaf yng Nghaerdydd.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi galwad ychydig cyn 5:00pm ddydd Sul i fynd i adeilad un llawr ar Ffordd Andrew.

Mae criw o Bontypridd ynghyd â diffoddwyr o'r Eglwys Newydd, Y Rhath, Caerffili, Penarth, Trelài a Chanol Caerdydd hefyd ar y safle.

Cafodd yr A4054 Ffordd y Bont yng Ngogledd Llandaf ei chau i'r ddau gyfeiriad.