Gorymdaith ddathlu i Gasnewydd

Casnewydd gyda'r tlws yn Wembley Image copyright PA/John Walton
Image caption Mae Casnewydd wedi disgwyl 25 mlynedd i ddychwelyd i'r cynghrair

Bydd clwb pêl-droed Casnewydd yn dathlu dychwelyd i'r Cynghrair Pêl-droed gyda gorymdaith drwy'r ddinas nos Fercher.

Roedd Casnewydd yn fuddugol o 2-0 yn erbyn Wrecsam yn Wembley yn rownd derfynol y gemau ail gyfle brynhawn Sul.

Fe fyddan nhw'n dychwelyd wedi bwlch o chwarter canrif allan o'r cynghrair.

Fe ddaw ar ddiwedd blwyddyn lwyddiannus i gadeirydd y clwb Les Scadding wedi iddo yntau ennill £45.5 miliwn ar loteri'r EuroMillions yn 2009.

Bydd gorymdaith a dathliad dydd Mercher yn cynnwys derbyniad dinesig i'r chwaraewyr.

Cafodd Mr Scadding, sy'n gefnogwr i Gasnewydd erioed, wahoddiad i ymuno gyda bwrdd y clwb ac fe gafodd ei ddewis yn gadeirydd ar ddechrau tymor 2012-13.

Cafodd sedd gyda'r pwysigion yn Wembley wrth i'w dîm ennill y wobr fawr.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Casnewydd: "Hoffai'r cyngor longyfarch clwb Casnewydd ar eu llwyddiant a'u dyrchafiad.

"Mae'n newyddion gwych i'r ddinas sydd yn falch o fod yn ddinas gydag uchelgais ym myd chwaraeon.

"Dymuna'r cyngor y gorau i'r tîm yn y dyfodol wrth iddyn nhw gynrychioli Casnewydd yn y Cynghrair Pêl-droed."

Straeon perthnasol