Plentyn wedi'i glymu i wifren wibio yn "anghywir"

'Swamp Flyer' Image copyright Daily Post
Image caption Agorodd atyniad y 'Swamp Flyer' ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad ym mis Ebrill 2011

Mae cwest wedi clywed bod bachgen 11 oed, fu farw ar ôl disgyn o wifren wibio (zip wire) mewn parc antur yng Ngwynedd, wedi cael ei gysylltu'n anghywir i'r offer.

Clywodd cwest yn Nolgellau fod Bailey Sumner o Blackpool wedi marw ar ôl cael anafiadau difrifol i'w ben ar Ebrill 24, 2011.

Dim ond wythnos oedd ers i'r atyniad Swamp Flyer agor ym mharc Gelli Gyffwrdd ym Methel ger Caernarfon.

Clywodd y cwest fod bachyn mynyddu wedi cael ei roi trwy'r gadwyn anghywir ac felly ddim wedi'i gysylltu gyda'r rhaff oedd yn diogelu'r plentyn.

Yn ôl perchennog y parc, Stephen Bristow, fe ddylai rhywun fod wedi sylwi ar y camgymeriad cyn i'r bachgen gychwyn ar y wifren.

Mae'r cwest yn parhau.

Straeon perthnasol